Amdanaf i
Ymarferwr datblygu cymunedol â phrofiad o 20 mlynedd a Chymro Cymraeg ydw i. Hefyd mae gyda fi brofiad o ddatblygu cymunedol fel ymchwilydd, ysgrifenwr, hyfforddwr cynhwysiant digidol, rheolwr prosiectau a datblygu gweithlu. Podledwr profiadol ydw i hefyd.
Yn awr rydw i’n gweithio ar fy liwt fy huna gan gynnig gwasanaethau o gwmpas:
- Hyfforddi ac ymgynghori datblygu cymunedol
- Ymchwil datblygu cymunedol
- Creu lleoedd
- Cynhyrchu podlediadau
Hefyd rydw i wedi sefydlu amrywiol o fentrau preifat a chymdeithasol megis Llwybrau Cwrw y Cymoedd, Expo’r Wal Goch a Grow Social Capital.
Sefydlais i bodlediadau cyntaf y byd i fwrw golwg ar y pynciau amryfal o ddatblygu cymunedol a’r tîm pêl-droed Cymru: The Community Development Podcast; a Podcast Pêl-droed.
Rydw i wedi cael fy nghyhoeddi ar bynciau megis angorau cymunedol, datblygu cymunedol a phêl-droed Cymreig a chredaf yn y pwêr o weithrediad cymunedol a chymdeithasol i drechu aghydraddoldeb, hybu lles a gwarchod y planed.