Expo’r Wal Goch

Home » Projects » Prosiectau » Expo’r Wal Goch

Gyda Tim Hartley sefydlais i Expo’r Wal Goch fel cwmni budd cymunedol yn 2019 gyda’r nod o dynnu pobl at eu gilydd i archwilio a rhannu ffyrdd o ddefnyddio pêl-droed Cymreig yn bellach fel grym er budd cymdeithasol. 

Ei mantra yw:

gan ffans, ar gyfer ffans

Yng ngafael y pandemig cynhalwyd yr Expo cyntaf ym mis Mehefin 2020 gyda rhaglen 4 ddiwrnod arlein o ddarlithoedd, cyflwyniadau a thrafodaethau. Cewch flas o’r Expo ar ein sianel YouTube:

Yn ogystal â’r Expo rydym ni’n gweithio gyda Dr Penny Miles i gasglu a rhannu atgofion a phrofiadau menywod y Wal Goch yn Ffrainc yn Ewro 2016. Dyma gyfres o drafodaethau gyda chefnogwyr benywaidd a gefnogir gan yr Amgueddfa Bêl-droed Cymru yn Wrecsam a Sporting Heritage CIC fel rhan o’i dathliadau Diwrnod Treftadaeth Chwaraeon Cenedlaethol 2020 (#NSHD2020).

.

Russell Todd

Russell Todd

Ymarferwr datblygu cymunedol â phrofiad o 20 mlynedd a Chymro Cymraeg ydw i. Hefyd mae gyda fi brofiad o ddatblygu cymunedol fel ymchwilydd, ysgrifenwr, hyfforddwr cynhwysiant digidol, rheolwr prosiectau a datblygu gweithlu