Datganiad i’r wasg ar gyfer fy apwyntiad i fel Cydlynydd Treftadaeth Chwaraeon Cymru
Bu chwaraeon o hyd yn bwysig i Gymru fel cenedl: o gêm hynafol y cnapan, i rygbi a phêl-droed modern; o focsio i seiclo, athletau i nofio. Mae ein gwlad wedi cynhyrchu casgliad trawiadol o bobl chwaraeon eithriadol ac rydym yn gallu cystadlu ar lwyfan cystadlaethau rhyngwladol ar draws y bwrdd, gan gynnwys ym myd chwaraeon anabledd, lle bu Cymru’n arloesi ers amser maith.
Mae chwaraeon yng Nghymru yn cyffwrdd â phob plwyf, pentref a thref, gan ddod â phobl ynghyd, gwella iechyd a sbarduno datblygiad personol, cynnig cyfleoedd am gyfeillgarwch gydol oes a chreu cystadleuaeth dda ei natur.
Er yr holl lawenydd a ddaeth tîm pêl-droed dynion Cymru i’r genedl trwy gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd yn Qatar, neu a ddygwyd gan Geraint Thomas yn ennill y Tour de France eiconig yn 2018, mae asgwrn cefn y diwylliant cyfoethog hwn yn cael ei ddarparu gan glybiau llawr gwlad sy’n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr. Gwirfoddolwyr yn aml yw’r rhai hefyd, hyd yn oed mewn chwaraeon proffesiynol, sy’n trysori treftadaeth chwaraeon ac sy’n un o’r rhesymau pam y treuliodd Sporting Heritage CIC amser gyda’r sector treftadaeth yn ystod y pandemig yn datblygu Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer treftadaeth chwaraeon Cymru, wedi’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru.
Gyda’r drysau i amgueddfeydd a chasgliadau unwaith eto ar agor i’r cyhoedd, mae’r amser wedi dod i fwrw ymlaen â’r Fframwaith a rhoi rhai cynlluniau penodol ar waith ar gyfer cyflawni yn y blynyddoedd nesaf. Rydw i wrth fy modd i gael fy mhenodi Cydlynydd Cymru ar gyfer Sporting Heritage CIC i hwyluso’r gwaith hwn ac elfen ganolog yw cefnogi’r sectorau gwirfoddol a chymunedol i gyfrannu at y broses fel bod y Fframwaith yn ymateb i anghenion a dyheadau grwpiau gwirfoddol sydd eisoes yn angerddol ac yn frwdfrydig o ofalu am dreftadaeth chwaraeon y genedl, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol y dreftadaeth.
Meddai Russell, “Bydd yna sawl ffordd o gymryd rhan, yn cynnwys digwyddiadau, ar-lein a wyneb yn wyneb. Bydd arddangosfa treftadaeth chwaraeon ar-lein i Gymru y byddech o bosib am enwebu eitem treftadaeth gan eich clwb neu gymdeithas. Hefyd mae yna arolwg i helpu canfod pa gasgliadau treftadaeth chwaraeon sydd yn bodoli yng Nghymru, lle maen nhw’n cael eu cadw, ydyn nhw wedi’u catalogio, ac ym mha gyflwr y maent. Mae hwn ar agor tan 10 Mawrth yma.”
Parheoudd, “Mae’n bwysig bod y rheini o chwaraeon cymunedol yn dweud eu dweud ac yn cwblhau be’ mae’r sector treftadaeth proffesiynol yn gwneud yn barod ar gyfer treftadaeth chwaraeon Cymreig. Dyma pam fydd bwrsariaeth ar gael i helpu gwirfoddolwyr cyrraedd y digwyddiad wyneb i wyneb ar 23 Mawrth.”
I wybod mwy am weithgareddau’r Fframwaith i ddod neu am Sporting Heritage CIC yn fwy cyffredinol, ewch i’w gwefan www.sportingheritage.org.uk; dilynwch nhw ar y cyfryngau cymdeithasol:
- @sportinghistory ar Twitter
- @sportingheritagecic ar Facebook
- @sportingheritagecic ar Instagram
Neu e-bostiwch fi russell@sportingheritage.org.uk .
Mae’r brif ddelwedd yn rhan o’r brosiect @CrowdCymru, cynhelir y llun gwreiddiol yn Archifdy Gwent yng Nglyn Ebwy.